1-3. Roeddwn yn llawen iawnPan ddaeth un dydd i’m clywY geiriau hyn: “Dewch, bawb, mi awnI dŷ yr Arglwydd Dduw”.A bellach mae ein traedO fewn cynteddau drudJerwsalem, y lle a wnaedI uno’r bobl ynghyd.
4-6. Yno y daw ar hyntHoll lwythau Duw o’u tref,Yn ôl y ddeddf i Israel gynt,I ddiolch iddo ef.Tŷ Dafydd yno sydd,A llys y gyfraith lem.Gweddïwch bawb bob nos, bob dydd,Am hedd Jerwsalem.