Salmau 121:1-2-7-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Tua’r mynyddoedd syllu a wnaf;P’le y caf gymorth hawddgar?Fe’i caf oddi wrth yr Arglwydd; efA greodd nef a daear.

3-4. Nid yw yn goddef llithro o’th droed;Ni fu erioed yn huno.Nid ydyw ceidwad Israel guYn cysgu na gorffwyso.

5-6. Fe geidw’r Arglwydd dy holl fod;Rhydd gysgod rhag dy lethu.Ni chaiff haul llethol y prynhawnNa lleuad lawn d’anafu.

7-8. Fe geidw’r Arglwydd d’einioes diRhag pob drygioni beunydd;Fe wylia dros dy fynd a’th ddod,A’th warchod yn dragywydd.

Salmau 121