Salmau 120:1-2-5 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

1-2. Gwaeddais ar yr Arglwydd tyner,“Tyrd i’m gwared o’m cyfyngder,Rhag y genau drwg, twyllodrus,A rhag tafod sy’n enllibus”.

3-4. Beth yn fwy a roddaf iti,Dafod drwg sy’n fy nifenwi?Rwyt fel saethau llym rhyfelwr,Marwor eirias yw dy ddwndwr.

5. Gwae fy mod i yn ymdeithioYn nhir Mesach, ac yn trigoYmysg pebyll alltud Cedar,Ymhlith pobl estron, anwar.

Salmau 120