9-10. Pa fodd y ceidw’r ifaincEu llwybrau’n lân fel ôd?Trwy gadw d’air. O Arglwydd,Fe’th geisiais â’m holl fod.Na ad i mi byth wyroOddi wrth d’orchmynion di.Dy eiriau a drysoraisO fewn fy nghalon i.
77-80. Er mwyn im gael byw, rho drugaredd,Cans hoffais dy gyfraith i gyd.Celwyddau’r trahaus cywilyddier,Ond ar dy ofynion mae ’mryd.Boed i’r rhai a’th ofnant droi atafI wybod dy farnau, fy Nuw;A bydded, rhag fy nghywilyddio,Dy ddeddfau o’m mewn tra bwyf byw.Eifionydd 87.87.D
81-84. Rwy’n dyheu am iachawdwriaeth;Yn dy air gobeithio a wnaf.Hir ddisgwyliaf am d’addewid,A dywedaf, “Pryd y cafFy nghysuro?” Rwy’n crebachuMegis costrel groen mewn mwg,Ond dy ddeddfau nid anghofiaf.Barna di f’erlidwyr drwg.
85-88. Cloddiodd gwŷr, yn groes i’th gyfraith,Bwll y cwympwn iddo’n syth.Pan erlidiant, tyrd i’m cymorth;Sicr yw d’orchmynion byth.Buont bron â’m lladd, ond etoCedwais dy ofynion diA barnedigaethau d’enau.Rho dy ffafr, adfywia fi.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
89-92. O Arglwydd, dy air sy’n dragwyddol;Mae wedi’i sefydlu’n y nef.Y mae dy ffyddlondeb yn para;Fe seiliaist y byd, a saif ef.Saif popeth yn ôl d’ordeiniadau,Cans gweision i ti ŷnt i gyd.Heb gysur dy gyfraith buaswnYn f’ing wedi marw cyn pryd.
93-96. Hyd byth nid anghofiaf d’ofynion;Trwy’r rhain y’m hadfywiaist, fy Nuw.Dy eiddo di wyf. Tyrd i’m hachub,D’ofynion sy’n llywio fy myw.Fe gais y drygionus fy nifa,Ond cadwaf dy farnau di-lyth;Cans gwelaf fod diwedd i bopeth,Ond pery d’orchymyn di byth.Eirinwg 98.98.D
97-100. O fel yr wy’n caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy’r dydd.Fe wna dy orchymyn fi’n ddoethachNa’m gelyn; mae’n gyson ei fudd.O ddysgu dy farnedigaethauDeallaf yn well nag y gwnaF’athrawon na neb o’r hynafgwyr,Cans cadw d’ofynion sydd dda.