33-36. O Arglwydd, dysg im ffordd dy ddeddfau;Caf wobr o’u cadw o hyd;A gwna fi’n ddeallus i gadwDy gyfraith â’m calon i gyd.Mae llwybr d’orchmynion mor hyfryd:Gwna imi ei gerdded bob dydd.Tro fi at dy farnedigaethau,Ac oddi wrth elw di-fudd.
37-40. Tro ymaith fy llygaid rhag gwagedd,A bydded i’th air fy mywhau.Cyflawna i’th was dy addewidI bawb sydd i ti’n ufuddhau.Tro ymaith y gwawd rwy’n ei ofni,Oherwydd dy farnau sydd iawn.Yr wyf yn dyheu am d’ofynion,O adfer fi i fywyd llawn.Henryd 87.87.D
41-44. Rho dy ffafr a’th iachawdwriaethIm, yn ôl d’addewid daer;Ac atebaf bawb o’m gwawdwyr,Cans gobeithiais yn dy air.Na ddwg air y gwir o’m genau;Yn dy farnau di, fy Nuw,Y gobeithiais; am dy gyfraith:Cadwaf hi tra byddaf byw.
45-48. Rhodio a wnaf yn rhydd oddi amgylch;Ceisiais dy ofynion di.Rhof dy gyfraith i frenhinoedd,Heb gywilydd arnaf fi.Ymhyfrydaf yn d’orchmynion,Ac rwyf yn eu caru hwy.Rwyf yn parchu dy holl ddeddfau,A myfyriaf arnynt mwy.Mount of Olives 87.87.D
49-52. Cofia d’air, y gair y gwnaethostImi ynddo lawenhau.Hyn fu ’nghysur ym mhob adfyd:Fod d’addewid di’n bywhau.Er i’r rhai trahaus fy ngwawdio,Cedwais i bob deddf a roed.Cefais gysur yn dy farnau,Ac fe’u cofiais hwy erioed.