25-28. Yn ôl dy air, O Arglwydd,O’r llwch adfywia fi.Atebaist fi o’m cyni;Dysg im dy ddeddfau di.Eglura ffordd d’ofynion,Myfyriais arni’n hir.Yn ôl dy air, cryfha fi;Anniddig wyf yn wir.
29-32. Boed twyll ymhell oddi wrthyf,Dy gyfraith yn gonglfaen.Dewisais ffordd ffyddlondeb;Dy farnau rhois o’m blaen.Na wawdia fi; cofleidiaisDy dystiolaethau coeth.Dilynaf ffordd d’orchmynion,Cans gwnaethost fi yn ddoeth.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
33-36. O Arglwydd, dysg im ffordd dy ddeddfau;Caf wobr o’u cadw o hyd;A gwna fi’n ddeallus i gadwDy gyfraith â’m calon i gyd.Mae llwybr d’orchmynion mor hyfryd:Gwna imi ei gerdded bob dydd.Tro fi at dy farnedigaethau,Ac oddi wrth elw di-fudd.
37-40. Tro ymaith fy llygaid rhag gwagedd,A bydded i’th air fy mywhau.Cyflawna i’th was dy addewidI bawb sydd i ti’n ufuddhau.Tro ymaith y gwawd rwy’n ei ofni,Oherwydd dy farnau sydd iawn.Yr wyf yn dyheu am d’ofynion,O adfer fi i fywyd llawn.Henryd 87.87.D
41-44. Rho dy ffafr a’th iachawdwriaethIm, yn ôl d’addewid daer;Ac atebaf bawb o’m gwawdwyr,Cans gobeithiais yn dy air.Na ddwg air y gwir o’m genau;Yn dy farnau di, fy Nuw,Y gobeithiais; am dy gyfraith:Cadwaf hi tra byddaf byw.
45-48. Rhodio a wnaf yn rhydd oddi amgylch;Ceisiais dy ofynion di.Rhof dy gyfraith i frenhinoedd,Heb gywilydd arnaf fi.Ymhyfrydaf yn d’orchmynion,Ac rwyf yn eu caru hwy.Rwyf yn parchu dy holl ddeddfau,A myfyriaf arnynt mwy.Mount of Olives 87.87.D