145-148. Gwaeddaf arnat; Arglwydd, ateb,Ac i’th ddeddfau ufuddhaf.Tyrd i’m gwared, ac fe gadwafDy farnedigaethau braf.Cyn y wawr rwy’n ceisio cymorth,Yn dy air mae ’ngobaith i.Rwy’n myfyrio ym mân oriau’rNos ar dy addewid di.
149-152. Gwrando ’nghri yn ôl dy gariad,’N ôl dy farnau adfer fi.Agos yw f’erlidwyr castiog,Pell oddi wrth dy gyfraith di.Yr wyt ti yn agos, Arglwydd.Mae d’orchmynion oll yn wir.Seiliaist dy farnedigaethauYn dragywydd yn y tir.Eirinwg 98.98.D
153-156. O edrych ar f’adfyd a’m gwared,Cans cofiais dy lân gyfraith di.Amddiffyn fy achos a’m hadfer,Yn ôl dy addewid i mi.Ni ddaw i’r rhai drwg iachawdwriaeth:I’r rhain aeth dy ddeddfau yn sarn.Mawr yw dy drugaredd, O Arglwydd;Adfywia fi’n unol â’th farn.
157-160. Ni throis rhag dy farnedigaethau,Er bod fy ngelynion yn daer.Ffieiddiais at bawb sy’n dwyllodrus,Am nad ŷnt yn cadw dy air.Gwêl fel yr wy’n caru d’ofynion;Dy gariad, fy Nuw, a’m bywha.Cans hanfod dy air yw gwirionedd;Tragwyddol dy farnau, a da.Crug-y-bar 98.98.D