Salmau 118:25-27a-27b-29 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

25-27a. Erfyniwn arnat, Arglwydd, clyw,Ac achub, llwydda ni.Sanctaidd a bendigedig ywA ddaw yn d’enw di.Rhoddwn yn awr o dŷ ein DuwEi fendith arnoch chwi.Y mae’r Arglwydd, ein goleuni, yn Dduw.

27b-29. Ymunwch â’r orymdaith fawrAt gyrn yr allor wiw.Ti yw fy Nuw; diolchaf nawr;Dyrchafaf di, fy Nuw.Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,Cans Duw daionus yw;Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth.

Salmau 118