Salmau 118:17-21-27b-29 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

17-21. Nid marw ond byw a fyddaf fi.Adroddaf am ei waith.Disgyblodd Duw fi’n llym, ond niBu imi farw chwaith.Agorwch byrth y deml i mi,A rhoddaf ddiolch maithI ti, Arglwydd, am fy ngwared i.

22-24. Mae’r garreg y gwrthodwyd hiGan y penseiri i gydYn bennaf conglfaen y tŷ,A ninnau’n synnu’n fud.Hwn ydyw dydd d’amlygu diYn Arglwydd yr holl fyd;Gorfoleddwn ynddo a llawenhawn.

25-27a. Erfyniwn arnat, Arglwydd, clyw,Ac achub, llwydda ni.Sanctaidd a bendigedig ywA ddaw yn d’enw di.Rhoddwn yn awr o dŷ ein DuwEi fendith arnoch chwi.Y mae’r Arglwydd, ein goleuni, yn Dduw.

27b-29. Ymunwch â’r orymdaith fawrAt gyrn yr allor wiw.Ti yw fy Nuw; diolchaf nawr;Dyrchafaf di, fy Nuw.Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,Cans Duw daionus yw;Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth.

Salmau 118