Salmau 112:5b-6-9 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

5b-6. Da yw trefnu pob rhyw faterMewn gonestrwydd a chyfiawnder.Yr un cyfiawn, nis symudir,Ac am byth ei waith a gofir.

7-8. Nid yw’n ofni drwg newyddion,Ond diysgog yw ei galon,Ac nid ofna nes gweld diweddEi elynion a’u hanwiredd.

9. Rhoes i’r tlawd haelioni lawer;Byth fe bery ei gyfiawnder;Ac fe gaiff gan Dduw o’r diweddEi ddyrchafu mewn anrhydedd.

Salmau 112