4-5. Cwynant am fy ngharedigrwydd;Rwy’n gweddïo drostynt, Arglwydd.Drwg am dda i mi a dalant,Cas am gariad, a dywedant:
6-7. “Rhowch ar ei ddeheulaw elyn;Euog fydd, a’i weddi’n wrthun.Boed ei ddyddiau’n brin, a rhodderArall yn ei swydd ar fyrder.
8-11. Boed ei blant ef yn amddifaid,Yn gardotwyr ac yn grwydriaid.Aed ei eiddo i’r beilïaid,A’i enillion i estroniaid.