8. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,Ac am a wnaeth i’w bobl gaeth,Cans cariad yw.
4-7. Aeth rhai ar goll mewn drysi,Heb ffordd at le i fyw.Yr oeddent yn newynog,Ac yn sychedig, wyw.Gwaeddasant ar yr Arglwydd,A’u gwared a wnaeth ef,A’u harwain hyd ffordd unionI ddiogelwch tref.
33-36. Mae’n troi ffynhonnau’n sychdirI gosbi pobl ddrwg.Mae’n troi tir sych yn ffrwythlonI rai newynog. DwgHwy yno i godi dinas;Cânt blannu a chânt hau.Bydd ef yn eu bendithioAc yn eu hamlhau.
8. Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw,Am gnydau’r haf, am wartheg braf,Cans cariad yw.
37-42. Pan fyddant hwy dan orthrwm,Fe ddaw a thywallt gwarthAr eu gormeswyr creulon,A’u gyrru i anial barth;Ond cwyd y tlawd o’i ofid,Cynydda’i deulu i gyd.Fe lawenha yr uniawn,Ond bydd y drwg yn fud. 8 Bydded iddynt ddiolchAm holl ffyddlondeb Duw;
43. Os doeth wyt, myn roi sylw i hyn,Cans cariad yw.