4-5. Cofia fi, Arglwydd, pan ddoi at dy bobl â’th ffafriaeth.Ymwêl â mi pan estynni dy fawr waredigaeth,A gweld a gafLwyddiant dy bobl; llawenhafPan lawenha d’etifeddiaeth.
28-31. Yna fe aethant dan iau’r duw Baal Peor, a bwytaEbyrth y meirw, a digio yr Arglwydd â’u hyfdra.Daeth arnynt bla,Nes barnodd Phinees hwy’n dda;Cofir am byth ei uniondra.
32-33. Wrth ddyfroedd Meriba hefyd, digiasant yr Arglwydd,Ac fe aeth Moses ei hun i drybini o’u herwydd,Canys fe aethChwerwder i’w enaid, a gwnaethBethau a fu iddo’n dramgwydd.
34-37. Nid ufuddhasant ychwaith a dinistrio’r paganiaid,Ond ymgymysgu â hwy, dysgu ffyrdd yr anwariaid:Plygu o flaenDelwau o goed ac o faen,Aberthu’u plant i’r demoniaid.
38-39. I dduwiau Canaan aberthent eu meibion a’u merched,Ac fe halogwyd y ddaear â gwaed y diniwed.Trwy hyn i gydAethant yn aflan eu brydAc yn buteiniaid gwargaled.
40-43. Yna cythruddodd yr Arglwydd eu Duw yn eu herbyn,A darostyngodd ei bobl dan lywodraeth eu gelyn.Droeon bu’n gefnIddynt, ond pechent drachefn,A darostyngai hwy wedyn.