1-3. Molwch yr Arglwydd, cans da yw; ei gariad a bery.Diolchwch iddo; ei wyrthiau ni all neb eu traethu.Mor wyn eu bydY rhai sy’n uniawn o hydAc sydd yn gyfiawn wrth farnu.
13-15. Buan yr aeth ei weithredoedd yn angof llwyr ganddynt.Profasant Dduw yn yr anial, pan ddaeth eu blys drostynt.Rhoes iddynt hwyBopeth a geisient, a mwy,Ond gyrrodd nychdod amdanynt.
16-18. Roedd eu cenfigen at Foses ac Aaron yn wenfflam.Caeodd y ddaear am Dathan a chwmni Abiram.Cyneuodd tân:Llosgodd ei fflamau yn lânY rhai drygionus a gwyrgam.
19-22. Yn Horeb, delw a wnaethant o lo, a’i haddoli:Newid gogoniant eu Duw am lun eidion yn pori;Anghofio Duw,A’u dygodd o’r Aifft yn fyw,A gwyrthiau mawr ei ddaioni.
23-25. Felly, dywedodd y byddai’n eu difa yn ebrwyddOni ddôi Moses i’r bwlch i droi’n ôl ei ddicllonrwydd.Mawr oedd eu brad;Cablent hyfrydwch y wlad,Heb wrando ar lais yr Arglwydd.
26-27. Fe gododd yntau ei law yn eu herbyn, a thynguY byddai’n peri eu cwymp yn yr anial, a chwaluEu plant i gydI blith cenhedloedd y byd –Trwy’r gwledydd oll eu gwasgaru.
28-31. Yna fe aethant dan iau’r duw Baal Peor, a bwytaEbyrth y meirw, a digio yr Arglwydd â’u hyfdra.Daeth arnynt bla,Nes barnodd Phinees hwy’n dda;Cofir am byth ei uniondra.