Salmau 105:24-27-41-45 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

24-27. Fe’u gwnaeth yr Arglwydd ynoYn bobl ffrwythlon iawn.Gwnaeth galon eu gelynionO ddichell cas yn llawn.Daeth Moses, a’i frawd, Aaron,Drwy’i air, i sythu’r cam,A thrwyddynt gwnaeth arwyddionA gwyrthiau yn nhir Ham.

28-32. Er anfon drosti gaddug,Terfysgai’r Aifft yn fwy;Fe droes yn waed ei dyfroedd,A lladd eu pysgod hwy,A llenwi’r tir â llyffaintA gwybed yn un haid;Trwy’r wlad fe lawiai cenllysgA fflachiai mellt di-baid.

33-36. Fe drawodd ffrwyth eu gwinwyddA’r holl ffigyswydd ir.Llefarodd, a daeth cwmwlLocustiaid dros y tirI lwyr ddinistrio’r glaswelltA difa’r cnydau ŷd;A’u plant cyntafanedigA drawodd yn ei lid.

37-40. Ac yna dug hwy allan,Ag aur ac arian drud,A’r Eifftiaid, yn eu harswyd,Yn llawenhau i gyd.Rhoes gwmwl i’w gorchuddio,Goleuo’r nos â thân;Anfonodd iddynt soflieirA bara’r nefoedd lân.

41-45. Fe holltodd graig nes tarddoddY dŵr drwy’r anial cras,Cans cofiodd ei addewidI Abraham, ei was.Rhoes diroedd y cenhedloeddI’w bobl yn lle i fyw,I gadw ei gyfreithiauA’i ddeddfau. Molwch Dduw.

Salmau 105