Salmau 101:5-8 Salmau Cân Newydd 2008 (SCN)

5. Y sawl sy’n enllibioCyfaill, rhof daw arno;Ac ni allaf arddelY rhai balch, ffroenuchel.

6. Ond y mae fy llygaidAr y gwir ffyddloniaid.Pobl y ffordd berffeithiafA gaiff weini arnaf.

7. Ni chaiff neb sy’n twylloYn fy nhŷ breswylio,Ac ni chaiff celwyddgiAros yn fy ngŵydd i.

8. Ddydd wrth ddydd helbulus,Tawaf y drygionus;Trof hwy i ffwrdd o ddinasDuw, ddihirod atgas.

Salmau 101