1-4. Pam, O Dduw, y sefi drawMewn cyfyngderPan fo’r drwg yn peri brawYn ei falchder?Barus ac ymffrostgar ywYn ei chwantau.Gwawdia’r Arglwydd, caeodd DduwO’i gynlluniau.
13-15. Pam y mae’r rhai drwg, O Dduw,Yn dy wawdio,Ac yn dweud o hyd, “Nid ywEf yn malio”?Ond rwyt ti yn sylwi ar boenYr anffodus.Cod a dryllia nerth a hoenY drygionus.