Salm 98:5-9 Salmau Cân 1621 (SC)

5. Cenwch i’r Arglwydd Dduw fal hynâ’r delyn, a chywirdant:A chydâ’r delyn lais a thon,rhowch iddo gyson foliant.

6. Canu yn llafar ac yn rhwydd,o flaen yr Arglwydd Frenin:Ar yr udgyrn, a’r chwŷthgyrn pres,fel dyna gyffes ddibrin.

7. A rhued y mor mawr i gyd,a’r byd, ac oll sydd ynthynt,

8. Y llifddyfroedd, a’r mynyddoedd,y mae yn addas iddynt.

9. Curant, canant, o flaen Duw cu,yr hwn sy’n barnu’r bydoedd.I’r byd y rhydd ei farn yn iawn,ac yn uniawn i’r bobloedd.

Salm 98