Salm 98:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Cenwch i’r Arglwydd newydd gân,ei waith fu lân ryfeddod:Ei law ddeau a’i fraich a wnaeth,i’n iechydwriaeth parod.

2. Yr Arglwydd hysbys in’ y gwnaethei iechydwriaeth gyhoedd:A’i gyfiownder ef yn dra hawdddatguddiawdd i’r cenhedloedd.

3. Fe gofiodd ei drugaredd hir,a’i wir i dy Israel,Fel y gwelodd terfynau’r bydei iechyd yn ddiymgel.

4. I’r Arglwydd â chaniad llafar,chwi yr holl ddaiar cenwch:A llafar lais, ac eglur lef,fry hyd y nef y lleisiwch.

5. Cenwch i’r Arglwydd Dduw fal hynâ’r delyn, a chywirdant:A chydâ’r delyn lais a thon,rhowch iddo gyson foliant.

Salm 98