1. Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,o’m calon, ac yn hollawl:Ei ryfeddodau rhof ar led,ac mae’n ddyled eu canmawl.
2. Byddaf fi lawen yn dy glod,ac ynod gorfoleddaf:I’th enw (o Dduw) y canaf glod,wyd hynod, y Goruchaf.
3. Tra y dychwelir draw’n ei hol,fy holl elynol luoedd,Llithrant o’th flaen, difethir hwy,ni ddon hwy mwy iw lleoedd.