Salm 88:3-7 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Cans mae fy enaid mewn dull caeth,a’m heinioes aeth i’r beddrod:

4. Fel gwr marw y rhifwyd fi,a’m nerth oedd wedi darfod.

5. Mor farw a rhai wedi eu llâdd,a’i taflu ’nglhâdd mewn angof:A laddyt di mor siwr a hyn,na bai byth honyn atgof.

6. Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,ac mewn tywyllwch eithaf.

7. Rhoist bwys dy ddig ar y corph mau,a’th holl for-donnau arnaf.

Salm 88