Salm 88:10-15 Salmau Cân 1621 (SC)

10. Ai i’r meirw dangosi wyrth?a ddont i’th byrth i’th foli?

11. A draethir dy fawl yn y bedd,a’th ni lân wirionedd heini?

12. Ai mewn tywyll y mae dy râd?a’th iowndeb yng wlâd angof?

13. Fal hyn (Dduw) llefais arnat ti,o clyw fy ngweddi etto.

14. Pam (o f’Arglwydd a’m Duw) i’m rhaidy rhoi f’enaid ar wrthod?Ac y cuddi dy wyneb pryd?fy nghoel i gyd sydd ynod.

15. Truan ymron marwolaeth wyf,mewn trymglwyf o’m ieuenctyd:A'th ofni bum yn nychbeth gwael,gan ammau cael mo’r iechyd.

Salm 88