9. Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)o’th flaen don ac addolant:A pha le bynnag ar y bonti’th enw rhont ogoniant.
10. Cans tydi ydwyd fawr a phuryn gwneuthur rhyfeddodau:A thydi’n unig wyd yn Dduw,ni cheisiwn amryw dduwiau.
11. Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)câf rhwydd dy wirionedd:Gwna fy nghalon yn un â thi,ac ofnaf fi dy fawredd.
12. Fy Arglwydd Dduw moliannaf diâ holl egni fy nghalon:Ac i’th fawr enw byth gan dant,y rhof ogoniant cyson.
13. Cans mawr yw dy drugaredd di,tu ac attaf fi yn barod,Gwaredaist f’enaid i o’r bedd,ac o’r gorddyfnedd isod.