5. Ac ynot ti sy’n cadarnhau,a’th lwybrau yn eu calon.
6. Pe rhon a gorfod ar y rhai’nrhyd glyn wylofain dramwy:Gosodant ffynnon iddyn nhw,a’r glaw a leinw fwyfwy.
7. Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,nes cael yn brydferth ddyfod:I’mddangos i Dduw gar ei fron,yn Seion ei breswylfod.
8. Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,a’m gweddi o Dduw Jagof:
9. Gwel wyneb d’eneiniog, a’i stâd,Duw’n tarian nâd fi’n angof.
10. Gwell yw nâ mil, un dydd i’th dy,am hynny mwy dewisolYm fod ar riniog y drws tau,nâ phlasau yr annuwiol.