Salm 81:2-8 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Cymerwch gathl y psallwyr lân,a moeswch dympan hefyd:A cheisiwch ganu gydâ hyny nabl a’r delyn hyfryd.

3. Cenwch udcyrn ar loer newydd,y pryd sydd nodol iddo:

4. Sef deddf yw hon ar wyl uchel,Duw Israel ac Jago.

5. Yn Joseph clymmodd hyn yn ddysg,pan ddaeth o fysg yr Aiphtwyr:Lle clywais iaith oedd ddieithr im’,heb ddeall dim o’i hystyr.

6. Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraichtynnais faich eich ysgwyddau:Ac felly tynnais eich dwy law,i’madaw a’r ffwrneisiau.

7. I’th flinder gelwaist arnaf fi,gwaredais di sut yma:Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,ynglan dyfroedd Meribba.

8. Fy mhobl Israel gwrando fi,os ystyri yn ffyddlon:

Salm 81