12. Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hyn,iw cyngor cyndyn hynny.
13. Och na wrandawsai Israel,gan rodio’n ffel fy llwybrau:
14. A phwys fy llaw llethaswn froneu holl elynion hwythau.
15. Caseion ein Duw, yn ei lid,a ostyngesid iddaw.Ac ef a roesai yn y tirammodau hir i’r eiddaw.
16. Ein Duw a roesai iddynt borth,drwy frasder cymorth rhadol:Rhoi mel o’r graig, rhoi llaeth yn flith,a gwenith yn ddigonol.