8. Na chofia’n camwedd gynt i’n hoes,Duw bryssia moes drugaredd:Dy nodded a’n rhagflaeno nisy’ mewn trueni’n gorwedd.
9. O Dduw ein iechyd cymorth ni,er mwyn dy fri gogonol:A gwared er mwyn dy enw tau,ni rhag pechodau marwol.
10. Pan y gofynnant ple mae’n Duw,dod arnynt amryw fformod:I ddial gwaed dy ddwyfol blant,ac yno cânt hwy wybod.
11. Duw, doed ochenaid ger dy frondy garcharorion rhygaeth:Ac yn dy ddirfawr ogoniant,ymddiffyn blant marwolaeth.
12. Ein cymdogion a’th gablodd di,tâl i’r rhei’ni yn gwblolEu cabledd iw mynwesau’i hun,o Arglwydd gun gorchestol.