Salm 79:6-12 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Tywallt dy lid ar bobl estron,rhai nid adwaenon m’onot:Ac ar dyrnasoedd ni eilw,(Duw) ar dy enw hynod.

7. Cans wyrion Jagof (bobl oedd gu)y maent iw hysu’n rhyfedd:Ac a wnaethant i’r rhei’ni fodpreswylfod anghyfannedd.

8. Na chofia’n camwedd gynt i’n hoes,Duw bryssia moes drugaredd:Dy nodded a’n rhagflaeno nisy’ mewn trueni’n gorwedd.

9. O Dduw ein iechyd cymorth ni,er mwyn dy fri gogonol:A gwared er mwyn dy enw tau,ni rhag pechodau marwol.

10. Pan y gofynnant ple mae’n Duw,dod arnynt amryw fformod:I ddial gwaed dy ddwyfol blant,ac yno cânt hwy wybod.

11. Duw, doed ochenaid ger dy frondy garcharorion rhygaeth:Ac yn dy ddirfawr ogoniant,ymddiffyn blant marwolaeth.

12. Ein cymdogion a’th gablodd di,tâl i’r rhei’ni yn gwblolEu cabledd iw mynwesau’i hun,o Arglwydd gun gorchestol.

Salm 79