Salm 78:68-71 Salmau Cân 1621 (SC)

68. Gwedi chwilio y rhai’n i gyd,fo roes ei fryd ar Juda:Ar fynydd Seion (ei dretâd)o gariad iw breswylfa.

69. Yna yr adeiladodd efadeilad gref a howddgar,Yn gysegr-lys byth i barhau,fel hen seiliadau’r ddaiar.

70. Etholodd ef Ddafydd ei was,yr hwn oedd ddiflas fugail:Ac a’i dug ef i maes yn lân,o’i gorlan a’i ddefeid-gail.

71. O borthi defaid mammau wyn,iw ddwyn i borthi dynion:Jagof, ac Israel, a’i plant,dyna ei feddiant ffyddlon.

Salm 78