62. Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)
63. Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,gweryfon glân rhoes heibio:
64. Ei offeiriaid i’r cleddyf glâs,a’i weddw ni chafas wylo.
65. Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,fal un a ddoe o gysgu:Neu fal gwr cadarn wedi gwin,yn erwin iw dychrynu.
66. Taflodd y gelyn yn ei ol,rhoes mewn tragwyddol wradwydd,
67. Rhoes wyrion Joseph dan un pwyth,ac Ephraim lwyth i dramgwydd.
68. Gwedi chwilio y rhai’n i gyd,fo roes ei fryd ar Juda:Ar fynydd Seion (ei dretâd)o gariad iw breswylfa.
69. Yna yr adeiladodd efadeilad gref a howddgar,Yn gysegr-lys byth i barhau,fel hen seiliadau’r ddaiar.
70. Etholodd ef Ddafydd ei was,yr hwn oedd ddiflas fugail:Ac a’i dug ef i maes yn lân,o’i gorlan a’i ddefeid-gail.
71. O borthi defaid mammau wyn,iw ddwyn i borthi dynion:Jagof, ac Israel, a’i plant,dyna ei feddiant ffyddlon.