Salm 78:61-65 Salmau Cân 1621 (SC)

61. Ei nerth a roes i garchar caeth,dan elyn daeth eu mowredd:

62. Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)

63. Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,gweryfon glân rhoes heibio:

64. Ei offeiriaid i’r cleddyf glâs,a’i weddw ni chafas wylo.

65. Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,fal un a ddoe o gysgu:Neu fal gwr cadarn wedi gwin,yn erwin iw dychrynu.

Salm 78