Salm 78:57-62 Salmau Cân 1621 (SC)

57. Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,fel eu holl dadau twyll-naws:Megis bwa a fai mewn câd,ac yntho dafliad gwyrdraws.

58. Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,mewn camwedd troent oddiwrthoAt wylfa nos, a delw o bren,fal hyn y digien efo.

59. Ond y Gorucha’n gweled hyn,a ddigiodd wrthyn hwythau:Felly dirmygodd Israel,a gadel ei ammodau.

60. Yna’r ymadawodd efo,â chysegr Shilo dirion:Ei bebyll a’i brif ysgol ddysg,lle’ buasai’ mysg ei ddynion.

61. Ei nerth a roes i garchar caeth,dan elyn daeth eu mowredd:

62. Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)

Salm 78