Salm 78:51-55 Salmau Cân 1621 (SC)

51. Yna y tarawdd un Duw Nafy plant cyntaf anedig:Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,sef am ei fod yn llawnddig.

52. Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)foi twysawdd drwy’r anialfan,Fel arwain defaid, llwybrau pell,yn wael ddiadell fechan.

53. Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,drwy’r mor (ffordd ddofn) heb wlychu:A’i goll elynion heb fwy stor,fe wnaeth i’r mor eu llyngcu.

54. Rhoes hwy i etifeddu’n rhydd,ym mynydd ei sancteiddrwydd:Yr hwn a ddarfu ei warhau,â llaw ddeau yr Arglwydd.

55. Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwythrhoes i bob llwyth ei gyfranO Israel, ac yn eu plaid, rhoi’r hen drigoliain allan.

Salm 78