Salm 78:25-31 Salmau Cân 1621 (SC)

25. Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,sef bara yr Angylion:

26. Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt,gydâ’r deheuwynt nerthlon.

27. Fel y llwch y rhoes gig iw hel,ac adar fel y tywod:

28. Ynghylch eu gwersyll a’i trigfydd,y glawiai beunydd gawod.

29. Bwyta digon o wledd ddiwael,a chael eu bwyd dymunol:

30. Ac heb ommedd dim ar eu blys,nac mo’i hewyllys cnawdol.

31. A’i tameidiau hwy iw safnau,(ys ofnwn y Goruchaf:)Yn Israel lladdodd iw ddigwyr etholedig brasaf.

Salm 78