Salm 78:16-26 Salmau Cân 1621 (SC)

16. Er tynnu dwfr o’r garreg lâs,er llithro’n loyw frâs ffrydau:

17. Yn yr anialwch digient Dduw,chwanegent amryw feiau.

18. Yn y diffaithwch profent Dduw,oes fwyd i fyw? meddylient:

19. A all Duw gael i’n ymma fwyd,mewn cyfryw lochwyd? dwedent.

20. Er taro’r graig a rhedeg dwr,yn ffrydau, cyflwr diball:A eill efe roi i’n fara’ a chig,i’n cadw yn ddiddig ddiwall?

21. Pan glybu Duw yr araith hon,fel tân yn wreichion nynnodd,Yn Iago ac yn Israel,gan lid yn uchel digiodd.

22. A’i ddig oedd am na chredent hwyi Dduw a’i fwyfwy fowredd,Ac na welent pa iechyd oeddyn ei weithredoedd rhyfedd.

23. Gorchymmyn wybren, a’i gwarhau,egoryd drysau’r nefoedd:

24. A Manna’n fwyd, fel gwenith nef,a lawiodd ef iw luoedd.

25. Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,sef bara yr Angylion:

26. Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt,gydâ’r deheuwynt nerthlon.

Salm 78