Salm 77:1-3 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Fy llais at Dduw, pan roddais lef,fy llais o’r nef fo’i clybu:A’m llais gweddiais ar Dduw Ner,pan oedd blinder yn tarddu.

2. Y dydd y rhedai ’mriw, a’r nosni pheidiai achos llafur,Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,a’m hoes yn gwrthod cysur.

3. Yna y cofiwn Dduw a’i glod,pan syrthiai drallod enbyd:Yna gweddiwn dros fy mai,pan derfysgai fy yspryd.

Salm 77