Salm 74:3-7 Salmau Cân 1621 (SC)

3. Ymddercha (Arglwydd) taro’n drwm,pob gelyn gorthrwm difaYn dragywydd, a wnaeth na thrais,na dyfais i’th gysegrfa.

4. Dy elynion daethant i’n mysg,rhuasant derfysg greulon:A gosodasant dan gryfhau,fanerau yn arwyddion.

5. Iw cherfio’r saeri gorau gynt,a roesan wynt iw bwiyll.

6. Drylliant i’r llawr gerfiadau honag eirf, gyfeillion erchyll.

7. Llosgasant oll dy eglwys lân,a’i phyrth a thân yn ulw:A halogasant mewn dull dig,y noddfa’y trig dy enw.

Salm 74