Salm 73:21-29 Salmau Cân 1621 (SC)

21. Bum i ddig wrthyf fi fy hun,ac oerni fu’n fy nghalon.

22. Nas deallaswn hyn yn gynt,bum ffol un hynt ac eidion.

23. Er hyn etto bum gydâ thi,lle i’m twysi yn ddilysiant

24. Wrth fy llaw ddeau: wedi hynfy nerbyn i gogoniant.

25. Pa’m? pwy (o Dduw) sydd gennyf fiond tydi yn y nefoedd?Dim ni ddymunwn gydâ thi,wrth weini daiar leoedd.

26. Fy nghalon i, a’m nerth, a’m cnawd,y sydd mewn palldawd beunydd,Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,a’m tarian yn dragywydd.

27. A elo ymhell oddiwrthyd ti,y rhei’ni gwnaent yn ddiffaith:Ac a buteiniant rhagot ti,y rhei’ni torrir ymaith.

28. Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,fy ngobaith yw i’m calon

29. Y traethaf fi ei nerth, a’i wyrth,o fewn dy byrth, merch Sion.

Salm 73