Salm 68:8-14 Salmau Cân 1621 (SC)

8. Y ddaiar crynodd a flaen Duw,a’r nef rhoes amryw ddefni.Ac felly Sinai o flaen Duw,sef (unduw Israel howddgar)

9. Ar d’etifeddiaeth hidlaist law,i ddiflinaw y ddaiar.

10. Gwrteithiast hon, dy bobloedd disydd ynthi yn preswylio:Oth râd darperaist Dduw i’r tlawd,i gael digondawd yno.

11. Yr Arglwydd Dduw a roddai’r gair,mawr mintai’r cantoressau:

12. Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,yr ysbail rhont yn rhannau.

13. Pes ymdroech mewn parddu a llwch,chwi a fyddwch fel y glommen:A’i phlu yn aur ac arian teg,yn hedeg is yr wybren.

14. Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrnbob cedyrn o’i gaseion,Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,ac eira’ar ben bryn Salmon.

Salm 68