Salm 68:32-35 Salmau Cân 1621 (SC)

32. Holl dyrnasoedd y ddaiar lawr,i Dduw mawr cenwch foliant,Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,sef Arglwydd y gogoniant.

33. Hwn a farchogodd y nef fry,a hynny o’r dechreuad:Wele, daw nerthol sain ei lefo eitha’r nef i wastad.

34. Rhoddwch gadernid i Dduw ner,sef uchder ei ragoriaeth,Y sydd ar Israel, a’i nerthuwch wybrau prydferth gywaeth.

35. Duw, o’th gysegr i’th ofnir di,Duw Israel dodi nerthoedd:A chadernid mawr wyd i’th blaid,bendigaid fych oes oesoedd.

Salm 68