Salm 68:1-3 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Ymgyfoded un Duw ein Ner,gwasgarer ei elynion:Un drygddyn honynt nac arhoed,o’i flaen foed ei gaseion.

2. Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,os tawdd cwyr wrth eiriasdan,Fel hynny o flaen Duw (yn wir)yr enwir a ddiflannan.

3. Ond llawenycher ger bron Duwy cyfion, iw orfoledd:A'i hyfrydwch hwyntwy a fyddyn llawenydd cyfannedd.

Salm 68