Salm 64:6-10 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Gan chwilio dyfnder drygau trwch,o fewn dirgelwch eigion:A phawb iw gilydd yn rhoi nodo geuedd gwaelod calon.

7. Ond y mae Duw a’i saeth ynghudd,rhydd yn ddirybudd ergyd,Ef a dal adref yr hawl hon,yn ddyfn archollion gwaedlyd.

8. Gwaith y tafodau drwg lle y bo,a fynn lwyr syrthio arnynt,Pob dyn a’i gwel a dybia’n wellgilio ymhell o ddiwrthynt.

9. Yna y dywaid pawb a’i gwel,gwaith y Goruchel yw hyn,Cans felly y deallant hwyy cosbir fwyfwy’r gelyn.

10. Ond yn yr Arglwydd llawenhâ,ac y gobeithia’r cyfion:A gorfoledda yntho’n iawnpob dyn ag uniawn galon.

Salm 64