Salm 64:1-4 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,a chlyw o’r nef fi’n erfyn:O Dduw cadw fy einioes iy sydd yn ofni’r gelyn.

2. A chuddia fi dros ennyd bachrhag cyfrinach y rhai drwg:A rhag terfysg y rhai sy’n gwau,i wneuthur cammau amlwg.

3. Hogi tafodau fel y cledd,a dwedyd bustledd ddigon,Saethant ergydion i’m syrhau,a’r rhai’n oedd eiriau chwerwon.

4. I saethu’n ddirgel bigau dur,yn erbyn pur ei galon,Yn ddisymwth heb ofni neb,a thrwy gasineb creulon.

Salm 64