Salm 63:4-10 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,ac felly’th folaf etto,Ac yn dy enw di sydd guy caf dderchafu’ nwylo.

5. Digonir f’enaid fel â mera chyflawn frasder hefyd:A’m genau a gân y moliant tau,â phur wefusau hyfryd.

6. Tra fwy fi yn fy fy ngwely clyd,caf yn fy mryd dy gofio,Ac yng wiliadwriaethau’r noscâf achos i fyfyrio.

7. Ac am dy fod yn gymmorth ym’,drwy fawr rym’ dy drugaredd,Fy holl orfoledd a gais foddan gysgod dy adanedd.

8. Y mae f’enaid wrthyd ynglyndy ddeau sy’n ynghynnal.

9. Elont i’r eigion drwy drom loes,y rhai a’m rhoes mewn gofal.

10. Syrthiant hwyntwy ar fin eu harf,sy noeth er tarf i’r gwirion.A chwedi eu meirw hwyntwy dodyn fwyd llwynogod gwylltion.

Salm 63