Salm 6:4-10 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Duw gwared f’enaid, dychwel di,iacha fi a’th drugaredd:

5. Nid oes yn angau gof na hawl,a phwy ath fawl o’r pridd-fedd.

6. Diffygiais gan ochain bob nos,mewn gwal anniddos foddfa:Rwy’n gwlychu drwy y cystudd mau,a’m dagrau fy ngorweddfa.

7. O ddig i’m cas a goddef drwg,fy ngolwg sy’n tywyllu:A chan y dwfr a red yn rhaff,ynt angraff ac yn pylu.

8. Pob un a wnelo, aed ymhell,na dichell nac enwiredd:Cans clybu yr Arglwydd fy llais,pan lefais am drugaredd.

9. Yr Arglwydd clybu ef fy arch,rhof finnau barch a moliant:Fe dderbyn fy ngweddi, a’m gwaedd,am hyn yr haedd ogoniant.

10. Fe wradwyddir, fe drallodiryn ddir fy ngelynion:Ac fo’i dychwelir drwy fefl glwth,Hwynt yn ddisymwth ddigon.

Salm 6