Salm 6:1-5 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O Arglwydd na cherydda fi,ymhoethni dy gynddaredd:Ac na chosba fi yn dy lid,o blegid fy enwiredd.

2. O Arglwydd dy drugaredd dod,wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:O Arglwydd dyrd, iacha fi’n chwyrn,mae f’esgyrn i mewn cystudd.

3. A’m henaid i or llesgedd hyn,y sydd mewn dychryn sceler:Tithau O Arglwydd, paryw hyd?rhoi arnaf ddybryd brudd-der.

4. Duw gwared f’enaid, dychwel di,iacha fi a’th drugaredd:

5. Nid oes yn angau gof na hawl,a phwy ath fawl o’r pridd-fedd.

Salm 6