Salm 59:14-17 Salmau Cân 1621 (SC)

14. Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyro’mdroi yn llwyr o bobparth:A thrwy y ddinas clywch ei swn,un wedd a chwn yn cyfarth.

15. I gael ymborth crwydro a wnant,ac oni chânt eu digon,Nes cael byddant ar hyd y nosyn aros dan ymryson.

16. Minnau a ganaf o’r nerth tau,a’th nawdd yn forau molaf:Nerth ym’ a nawdd buost (o Ner)pan fu gorthrymder arnaf.

17. I ti canaf, o Dduw fy nerth,a’m hymadferth rymusol,Sef tydi yw fy Nuw, fy Naf,fy nhwr fy noddfa rasol.

Salm 59