Salm 55:1-18 Salmau Cân 1621 (SC)

1. O Dduw gwrando fy ngweddi brudd,nac ymgudd rhag fy nghwynfan,

2. Erglyw a gwyl fy ngwael ystâd,a llais fy nâd a’m tuchan.

3. Hyn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,a phwys dyn llym iâs enwir,Y rhai a daerant arnaf ddrwg,a’i llid yn amlwg gwelir.

4. Gofid calon sy’n dwyn fy oes,daeth angau loes hyd attaf.

5. Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,a dychryn daeth ar f’uchaf.

6. O dra ofn dwedwn yn fy nghri,gwae fi am esgyll clommen,Yna’r ehedwn i le rhydd,i gael ym’ lonydd amgen.

7. Wele, awn i grwydro ym mhell,lle cawn ystafell fachog.

8. Yna y bryssiwn ar fy hyntrhac rhuad gwynt tymestlog.

9. Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)gwahana eu tafodau.Sef yn y ddinas amlwg draisa welais, a chynennau.

10. Dydd a nos ei chylchu yn dro,a rhodio rhyd ei chaerau,O’i mewn y mae enwiredd mawr,ac ar ei llawr bechodau.

11. Gan faint ei henwireddau hi,a maint drygioni beunydd,Nid ymâd twyll na dichell chwaithfyth ymaith o’i heolydd.

12. Ac ni wnaeth fy nghâs y gwaith hyn:pe gelyn, goddefaswn:A phe dyn atgas yn ei roch,yn hawdd y gochelaswn.

13. Ond tydi wr, fy nghyfaill gwar,fy nghymmar a’m cydnabod,

14. A fu mewn cyd-gyfrinach ddwysyn eglwys Dduw’n cyfarfod.

15. Terfysg angau arnaw y del,i’r pwll yr el yn lledfyw:Sef ymherfedd eu cartref caunid oes ond drygau distryw.

16. Minnau gweddiaf ar Dduw byw,yr hwn a’m clyw mewn amser,

17. Hwyr, a borau, a chanol dydd,a hyn a fydd drwy daerder.

18. Gwaredodd Duw yr enioes faumewn hedd yn nyddiau drygnaws,Lle’r oedd or blaen yn ferbyn lu,sef ar fy nhu troes liaws.

Salm 55