Salm 52:4-7 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Hoffaist eiriau distryw a bâr,ti golyn twyllgar, creulon.

5. Duw a’th ddistrywia dithau byth,fo dyn dy chwyth o’th gaban:Ac a dyn dy wraidd di i gyd,o dir y bywyd allan.

6. Rhai a’i gwelant a arswydant,cans hwy a ydynt gyfion:A hwy a chwarddant am ei ben,pan welont ddilen greulon.

7. Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwysar Dduw na’i bwys na’i oglud,Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,a rhif a gwerth ei olud.

Salm 52