Salm 50:5-9 Salmau Cân 1621 (SC)

5. O cesglwch attaf fi fy saint,y rhai drwy ryddfraint brydferth:A wnaethan ammod a myfi,a’i rhwymo hi drwy aberth.

6. A phan ddangoso mintai nefei farnau ef yn union,Sef Duw fydd yn barnu ei hun,yr unic gun sydd gyfion.

7. Clyw di fy mhobl, traethaf yn ffraethdystiolaeth yn dy erbyn,Dithau Israel: ac iawn yw,Duw, sef dy Dduw a’th ofyn.

8. Ni chai di am yr ebyrth tau,na’th boeth offrymau gerydd:Nac am na baent hwy gar fy mron,y cyfryw roddion beunydd.

9. Ni chymeraf o’th dy un llo,na hyfr a fo’n dy gorlan,

Salm 50